top of page
Search

Gweidthy 7: Gweledigaeth Economaidd ar Gyfer y Dyfodol (ar gyfer pool ifanc 18-25 goed)

Gweithdy 7. 2 Tachwedd, 12:30 - 14:00


Beth yw eich Gweledigaeth ar gyfer Gogledd Cymru yn y dyfodol, pa fath o le fyddech chi am iddo fod?

  • Lle mae pobl ifanc yn falch ohonynt eu hunain, a'u cymunedau; maent yn datblygu meddylfryd, sy'n eu galluogi, i ddod yn rhan annatod o'u cymuned, i gyfrannu ato, a sylweddoli, y gallent ddatblygu gyrfa o fewn eu cymuned.

  • Hyrwyddo entrepreneuriaid lleol; defnyddio cynnyrch mwy lleol, er budd yr economi leol.

  • Gwell/mwy o gysylltiadau trafnidiaeth rhwng Gogledd a De Cymru.

  • Mwy o ddatblygiadau i gyrraedd ‘Carbon Net Zero’, a defnyddio deunyddiau/adnoddau cynaliadwy; trosglwyddo i fathau mwy economaidd gyfeillgar o drafnidiaeth.

  • Nid yw pobl ifanc yn grŵp homogenaidd, mae ganddynt safbwyntiau gwahanol, sy’n ddibynnol ar eu llwybr a'u profiad; mae’n bwysig cynnal llwybrau amrywiol.

  • Gwell cefnogaeth i bobl ifanc, sy’n trosglwyddo o addysg, i’r byd gwaith.

  • Gwell cefnogaeth i'n cyflogwyr, i'w hannog i ymgymryd â phobl ifanc.


Gan feddwl am eich profiad fel person ifanc neu ,fel rhywun sy'n gweithio neu'n ymgysylltu â phobl ifanc yng Ngogledd Cymru, beth yw'r her fwyaf sy'n wynebu economi Gogledd Cymru?

  • Nid yw pobl ifanc yn ymwybodol o'r cyfleoedd, i fod yn fentrus, o fewn eu cymunedau; nid ydynt yn cydnabod rôl y cymunedau, mewn cyd-destun economaidd byd-eang.

  • Nid yw pobl ifanc yn gweld dyfodol iddyn nhw eu hunain, yn eu hardaloedd gwledig, diffyg cyfleoedd; mae pobl ifanc yn fodlon symud i ardal sy’n addo dyfodol gwell, mae cyflogau'r diwydiannau mawr, delwedd a chyflogau’r swyddi hynny'n eu denu. Mae colli dosbarthiadau chweched ddosbarth o lawer o ysgolion uwchradd gwledig, yn golygu fod pobl ifanc yn 'ymfudo' yn gynnar o'u hardaloedd; mae'n her i'w cadw yn eu cymunedau, ac mewn swyddi da.

  • Nid ydyn nhw am i dwf economaidd, effeithio ar yr amgylchedd.

  • Mae angen rhywfaint o ystyriaeth ar sut y gellir ystyried deunydd lleol fel rhan o Gaffael i arbed allyriadau carbon - sut y gallwn fod yn fwy cynaliadwy gyda chynnyrch lleol?

  • Mae angen newid ymddygiad sylweddol.

  • Gwahaniaethau economaidd rhwng Gogledd a De Cymru; Mae Gogledd Cymru yn dueddol o gael ei adael ar ôl; rydym yn eilradd i bopeth sy'n digwydd yn Ne Cymru, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig; y mwyafrif wedi symud i Gaerdydd, Manceinion neu Llundain.

  • Marchnad lafur anodd a chystadleuol, i bobl ifanc sydd â phrofiad gwaith cyfyngedig; mae'n anodd cael gwaith mewn ardaloedd gwledig; mae'n her i'r iaith Gymraeg.

  • Mae angen help ar bobl ifanc gyda materion iechyd meddwl, a help i ddatblygu eu sgiliau meddal.

  • Gall pobl ifanc fod mewn lle bregus/hunan-barch isel/dyheadau isel; ymhellach i ffwrdd o ddod o hyd i waith oherwydd, eu bod wedi ymddieithrio o'u hamser mewn addysg; ddim yn gwybod beth maen nhw eisiau; angen edrych ar ganlyniadau rhai cynlluniau cyflogaeth.

  • Mae angen i rieni ac addysgwyr, baratoi ac arfogi pobl ifanc ar gyfer y byd gwaith yn well.

  • Her i gael pobl ifanc yn frwdfrydig i ddod o hyd i waith, addysg a hyfforddiant; mae'r pandemig wedi ymhelaethu ar hyn; her i hyrwyddo manteision bywyd gwaith/dyheadau gyrfa; mae angen i bobl ifanc wybod beth sydd o fewn y farchnad swyddi, ac angen bod â nodau realistig.

  • Mae diffyg hyder yn her, er y gallent fod yn gymwys iawn, mae gan rai diffyg gwybodaeth e.e. ar gyflogadwyedd, sut i gynhyrchu CV, ofn y broses gyfweld.

  • Rhwystrau pellach, fyddai cost ac argaeledd trafnidiaeth, i gymudo i'r gwaith.

  • Mae angen edrych ar gydlynu a chysondeb y gweithgareddau h.y. hyfforddiant, ar y sgiliau meddal yng Nghymru.

  • Gormod o ffocws ar gwmnïau mawr (ar raddfa fawr), a dim digon ar gwmnïau llai, busnesau newydd ac entrepreneuriaid yng Nghymru; angen dod i gysylltiad â diwydiannau a chyflogwyr, sy'n rhedeg busnesau bach neu ficro.

  • Dim digon o awydd ymhlith cyflogwyr, i recriwtio pobl ifanc – mae angen tynnu sylw at fanteision cyflogi pobl ifanc, er gwaethaf eu diffyg profiad.


 




Gan feddwl am eich profiad fel person ifanc neu, fel rhywun sy'n gweithio neu'n ymgysylltu â phobl ifanc yng Ngogledd Cymru, beth yw'r cyfle mwyaf, i economi Gogledd Cymru?

  • Mae sut i werthu cyfleoedd a chydlynu cymorth ar gyfer cyflogaeth, yn allweddol; sut rydym yn marchnata canlyniadau a manteision cael ein cyflogi, yn hytrach na'r swydd ei hun.

  • Cyfle i addysg, a busnesau cymunedol, ddatblygu'r sgiliau sydd ei angen ar ddiwydiant lleol, er mwyn i’r economi ffynnu.

  • Paratoi pobl ifanc i fod yn ymwybodol o'r cyfleoedd sydd ar gael iddynt, i fod yn fentrus yn eu cymunedau eu hunain; ymddiried a chefnogi cymunedau, gweithio gyda nhw, i sicrhau bod economi gynaliadwy yn cael ei datblygu.

  • Oherwydd Covid, mae rhai wedi cael cyfle i ailystyried eu sefyllfa, a chreu cyfleoedd iddyn nhw eu hunain yn yr ardal.

  • Y cyfle gorau mewn ardal wledig, yw ymuno â'r math hwn o weithdai.

  • Mae cyfleoedd i ddatgarboneiddio'r gadwyn gyflenwi a busnesau, ac i ail-hybu’r brand Cymreig – gall gyfrannu at dwristiaeth a chynhyrchu. Angen defnyddio a manteisio ar y Gymraeg.

  • Mae gan Yrfa Cymru nifer o setiau data ar bobl ifanc - mae angen iddynt adeiladu ar rain; mae ganddynt hefyd offer ar eu gwefan, sy'n helpu pobl i werthuso eu cryfderau a'u gwendidau; angen eu hyrwyddo i fyfyrwyr blwyddyn 9 ac uwch, a'u teuluoedd.

  • Mae cynlluniau'n dod yn fwy cenedlaethol ond, mae’n bwysig parhau â’r cynlluniau lleol e.e. cynlluniau lleoli di-dâl lleol, annog pobl ifanc i weithio gydag athrawon, fel ‘bubble monitors’; mae cost a chyllid yn rhwystr.

  • Gall y Warant Pobl Ifanc (Young Persons Guarantee), fod yn fodd o gefnogi pobl ifanc yng Nghymru.

  • Gwneud mwy o ddefnydd o dechnoleg, a sgiliau technoleg pobl ifanc.


Gan feddwl am eich profiad fel person ifanc neu, fel rhywun sy'n gweithio neu'n ymgysylltu â phobl ifanc yng Ngogledd Cymru, beth fyddai eich prif flaenoriaeth i'r rhanbarth?

  • Mae sut i werthu cyfleoedd, a chydlynu cymorth ar gyfer cyflogaeth, yn allweddol.

  • Mwy o arweiniad a hyfforddiant; cymorth a chyfleoedd ar ôl Prifysgol; mwy o gyfathrebu gan ddarparwyr cyrsiau, gyda'r myfyrwyr addysg uwch (AU)/addysg bellach (AB), tra ar eu taith; datblygu dealltwriaeth plant o oedran ysgol, bod y byd gwaith a gyrfaoedd yn bwysig, cynyddu parodrwydd gwaith.

  • Mwy o amlygiad i fyd gwaith, gyda chyfleoedd i feithrin hunan-barch, hyder ac iechyd meddwl da; bod yn ymwybodol o anawsterau pobl ifanc, o ran iechyd meddwl, a pha mor bell y maent o’r byd gwaith.

  • Ymgysylltiad effeithiol â chymaint o gyflogwyr â phosibl, yn enwedig busnesau bach a micro.

  • Creu cyfleoedd cymunedol, i alluogi pobl ifanc i aros, a chyfrannu at eu heconomi; byddai hyn yn cryfhau'r Gymraeg hefyd.

  • Mae angen i’r Llywodraeth Ganolog a’r Awdurdodau Lleol, ailystyried sut y maen nhw’n dyrannu arian – mentrau preifat mawr yn erbyn cymunedau cymunedol; byddai ymddiried a chefnogi cymunedau, yn sicrhau dyfodol economaidd iachach, mwy proffidiol a chynaliadwy, ar gyfer y cymunedau a’u pobl ifanc.

  • Mae angen unigolion o gymunedau lleol yn y sector dwristiaeth, gan fod ganddynt lawer mwy o hanes a straeon am yr ardal.

  • Uwch-sgilio pobl ifanc, yn benodol mewn sgiliau digidol a marchnata ar-lein.

  • Cysylltiad â thrafnidiaeth yn yr ardal – isadeiledd - gwella ffyrdd a thrafnidiaeth.

  • Sicrhau bod pobl ifanc lleol, yn cael cyfle i brynu tai yn lleol.

  • Datgarboneiddio ar draws pob sector – mae angen addysgu pobl amdano.



Mae gweithio gyda'n gilydd wedi'i nodi fel elfen allweddol o fewn y REF - beth fydd yn ei wneud yn haws i bobl ifanc gael mewnbwn yn y rhanbarth?

  • Ei wneud yn berthnasol i bobl ifanc.

  • Gweithio gyda'r sector addysg, AU ac AB; gweithdai mewn ysgolion a'r 6ed dosbarth; darparu hyfforddiant/cyfleoedd i bobl iau, i sicrhau eu bod yn cael eu haddysgu ar y pwnc; mae’n bwysig bod y sectorau’n cysylltu â chynlluniau graddedigion; mae angen gwneud mwy o bobl yn ymwybodol o sesiynau fel hyn e.e. cysylltu ag ysgolion, i gael mwy o leisiau.

  • Mae cyfathrebu â’r sectorau twf uchel, a gyda phobl ifanc mewn ysgolion yn bwysig, iddynt ddeall y sectorau blaenoriaethol yng Ngogledd Cymru, wrth benderfynu/dewis eu pynciau astudio.

  • Cael person ifanc fel rhan o Lywodraeth Cymru; mae’r bobl ifanc angen gweld canlyniadau o hyn.

  • Angen creu cyrsiau cymunedol i bobl ifanc; creu cysylltiadau cryf sy'n cysylltu addysg a busnesau cymunedol, a sicrhau eu bod yn datblygu'r sgiliau sydd eu hangen ar ddiwydiant, ac i’r economi leol i ffynnu.

  • Rhoi balchder iddynt, yn eu rôl, a'u cymunedau – datblygu meddylfryd i gael gyrfa a fydd yn cyfrannu at y gymuned honno; gwneud iddynt werthfawrogi manteision lles, bod yn llwyddiannus yn eu cymunedau.

  • Nid oes gan bobl ifanc ymdeimlad o berthyn, ac nid ydynt yn gweld dyfodol iddyn nhw eu hunain yn eu hardaloedd gwledig. Angen creu rhaglen wedi'i thargedu i fuddsoddi, denu a chadw pobl ifanc talentog yn eu cymunedau gwledig.

  • Ymgysylltu mwy ag achosion anarferol – grwpiau cymunedol, ffermwyr ifanc.

  • Addasu strategaeth gyfathrebu; defnyddio holiaduron; defnyddio cyfryngau cymdeithasol; rhoi golwg newydd – dim gormod o ysgrifennu a gwybodaeth.


Beth yw'r rhwystrau i gydweithrediad pobl ifanc?

  • Diffyg hyder i fynegi eu barn, maent yn aml yn teimlo na allant, oherwydd eu diffyg profiad – gall hyn gyfyngu ar gydweithredu.

  • Gall amseriad fod yn broblem wrth rannu gwybodaeth gyda phobl ifanc. Gall targedu ysgolion fod yn opsiwn - ffordd dda o'u dal.

  • Mae pobl yn fwy parod i rannu gwybodaeth/barn, mewn cyfarfod wyneb yn wyneb, na thros y rhyngrwyd.


9 views

Comments


bottom of page