Gweithdy 2. 19 Hydref, 12:30 - 13:30
Heriau i'r rhanbarth
Mae hon yn ddogfen uchelgeisiol - yr her fydd sicrhau ei bod yn berthnasol ac yn gyraeddadwy ar lawr gwlad; angen cysylltu'r holl weithgareddau gwahanol sy'n digwydd yn y rhanbarth a sicrhau cydweithio tuag at yr un diben
Sut i flaenoriaethu rhwng y gwahanol agweddau a sicrhau nad ydynt yn gwrthdaro yw'r her fawr. Angen eglurder ar yr hyn sydd angen ei ddatblygu fwyaf.
Mae creu economi gynaliadwy gyda chyllid y sector cyhoeddus yn lleihau'n sylweddol dros y blynyddoedd nesaf yn her.
Heriau o ganlyniad i wahanol ddiwylliannau
Ofn dros iaith a diwylliant Cymru gyda mewnlifiad uchel o bobl yn symud i gymunedau Cymru.
Mae angen arallgyfeirio canol trefi; dda bod REF yn cynnwys Canol Trefi ond mae angen i ni gydnabod, croesawu a chefnogi ein cymunedau a'n heconomi sylfaenol.
Effaith cludiant /cysylltiadau teithio gwael, mewn ardaloedd gwledig a heriwyd yn logistaidd – gan wneud mynediad at wasanaethau'n anodd; heriau trafnidiaeth hefyd yn ymestyn mewn ardaloedd trefol.
Sut mae cyrraedd nifer y busnesau sy'n weithgar ym maes arloesi sydd am ddatblygu? Beth yw rôl y sector preifat yn hyn o beth?
Mae adnabod problemau a defnyddio mesurau ataliol yn her – mae angen cadw pobl ifanc yn yr ardal, mae angen nodi pa sgiliau/pynciau sy'n chwarae i gryfderau'r ardal.
Cydnerthedd a chynaliadwyedd busnesau bach a chanolig – allwedd cynllunio olyniaeth wrth baratoi ar gyfer llwyddiant economaidd yn y dyfodol, yn enwedig o gofio bod busnesau meicro a rhai bach a chanolig yn cyfrif am ran sylweddol o Economi Cymru.
Addysg, Sgiliau a Hyfforddiant; effaith ar addysg uwch – mudo talent - mae sgiliau mor bwysig, nid yn unig i bobl ifanc ond i bobl hŷn hefyd; angen canolbwyntio ar uwchsgilio y rheiny dros 25 hefyd.

Cyfleoedd i'r rhanbarth
Lleoleiddio caffael mewn sectorau cyhoeddus – rhannu tendrau i ganiatáu cyfranogiad BBaChau; creu cysylltiadau i wneud caffael yn hygyrch i ficrofusnesau a mentrau cymdeithasol
Cyfle i wella cysylltiad â BUEGC – edrych ar is-grwpiau i gasglu gwybodaeth a chynnwys busnesau.
Ymgysylltu'n well â'n cymunedau a'n pobl ifanc
Gwella cyfathrebu rhwng yr holl randdeiliaid – nid yr 'Beth' ond y 'Sut' sy'n achosi'r broblem.
Mae angen paratoi portffolio i hyrwyddo'r rhanbarth a rhannu sgiliau. Ble mae'r gweithgaredd ymgysylltu â rhanddeiliaid sy'n dod â phobl i Gymru?
Agenda sgiliau – canolbwyntio ar ieuenctid cyn oedran gweithio.
Blaenoriaethau i'r rhanbarth baratoi'r ffordd ar gyfer gweledigaeth 2040
Rôl briodol ar gyfer gweithredu lleol, rhanbarthol a chenedlaethol i alluogi pawb i symud i'r un cyfeiriad a sicrhau gwerth ychwanegol a gwerth cymdeithasol – anelu at ddod i gonsensws gyda phartneriaid a darparwyr allanol – angen cysondeb ar draws y rhanbarth.
Mae capasiti yn ffactor pwysig i'w ystyried – mae disgwyliadau cymhleth sy'n gofyn am waith ychwanegol - pwy sy'n mynd i gymryd camau ymarferol i wireddu'r weledigaeth?
Nid oes angen cymryd unrhyw flaenoriaethau o'r ddogfen rhanddeiliaid ond cynnwys mwy sy'n cael eu gwneud ar lefel ranbarthol.
Newid y ddelwedd a'r canfyddiad – trefi, gweithlu, cyfleoedd
Gwella a datblygu gweithlu medrus
Gwella sgiliau technolegol
Gwella trafnidiaeth
Gwella mynediad digidol
Dealltwriaeth o'r hyn sydd ei angen a gwerthfawrogiad o'r gwahanol anghenion a disgwyliadau yn y rhanbarth; ymrwymiad i weithio ar sail ranbarthol yn her - mae angen cydnabod gwahaniaethau cyn symud ymlaen
Mae angen grymuso pobl i sicrhau newid a chael mwy o brynu i mewn - estyn allan i sectorau eraill a'r cyhoedd yn gyffredinol am eu barn gynrychioliadol.
Egwyddorion cydweithio ar gyfer y rhanbarth yn y dyfodol
Caniatáu hyblygrwydd mewn dysgu cydweithredol
Nid oes gan gydweithwyr sy'n gweithio ar lefel swyddogion o fewn yr awdurdodau lleol unrhyw gysylltiad â'r BUEGC - awgrymir gweithgor sy'n ymroi i gasglu adborth ganddynt.
Sector Busnes Cymdeithasol – cynrychiolydd yn cynnig ymgysylltu â'u busnesau ar ein rhan.
Mae cyfathrebu'n allweddol – gall trafodaethau lefel uchel fod yn ddi-rym – mae'r ffordd y caiff hyn ei gyfleu yn bwysig iawn er mwyn sicrhau dealltwriaeth a chefnogaeth.
Mae angen cynllun gweithredu. Mae angen nodi sefydliadau a ddylai fod yn helpu i ddatblygu'r REF. Mae angen i Lywodraeth Cymru a phartneriaid fod yn feiddgar a pheidio ag osgoi cywilyddio sectorau a sefydliadau i helpu.
Mae angen comisiynu ac adeiladu ar grŵp rhanddeiliaid cryf. Mae angen cael pobl o wahanol gefndiroedd a bod yn llysgenhadon i'w grwpiau/sectorau.
Sylweddoli pwysigrwydd pobl ifanc i'r drafodaeth hon