Gweithdy 3. 21 Hydref, 08:30 - 09:30
Cyffredinol
Dogfen gynhwysfawr ond, angen cadw’r cynnwys ar lefel uchel, ac yn gyffredinol.
O ran strwythur – angen bod yn benodol o dan y penawdau thematig, sy'n berthnasol i Ogledd Cymru: yr hyn yr ydym am ei gyflawni, a'r hyn y byddwn wedi'i gyflawni erbyn 2040.
Heriau rhanbarthol
Bylchau yn y ddogfen: twristiaeth, ailgylchu, rheoli tir, caffael.
Y Gymraeg mor bwysig – dim digon o bwyslais.
Mae cydweithio trawsffiniol ar goll o'r ddogfen.
Rhaid iddi gydymffurfio gyda’r Cynllun Sero Net.
Dim byd ar reoli adnoddau; sut mae’r hyn yr ydym yn gylfawni, yn cyfrannu at ein allyriadau nwyon tŷ gwydr h.y. newid yn yr hinsawdd - addasu neu os yn methu gwneud hynny, lliniaru.
Mae angen cynnwys trafnidiaeth gyhoeddus carbon isel.
Ansicrwydd ynghylch effaith amgylcheddol datblygiadau mawr, gellir datrys a hwyluso hyn drwy weithredu rhaglenni ymchwil, casglu tystiolaeth ystadegol, a sicrhau bod y wybodaeth hon, ar gael ar ddechrau'r broses.
Angen perswadio'r sector amaethyddol i hunanasesu eu hôl troed carbon. Efallai y bydd rhywfaint o wrthwynebiad i hyn ar draws pob sector - mae angen newid meddylfryd.
Mae rhan ynni niwclear o'r fframwaith yn eang; dim sôn am solar na morol; angen eu cynnwys. Canolbwyntio gormod ar niwclear.
Datblygu Sgiliau – mae angen sicrhau cydbwysedd rhwng y cyflenwad a'r galw, o ystyried angen y diwydiant, a sicrhau bod busnesau’n cael eu gwybodaeth ddigonol.
Angen addysgu plant o oedran ifanc, i esbonio newid yn yr hinsawdd, a phwysigrwydd ffyrdd o fyw carbon isel/di-garbon, i'w hysbrydoli i'w ddilyn fel llwybr gyrfa.
Ychydig iawn ar y sector tai erbyn 2040.
Angen mynegi sut yr ydym yn mynd i fynd ati i gyflawni net sero, gan ddefnyddio’r hyn sydd gennym eisoes, ac nid o reidrwydd yn creu sector newydd.

Heriau rhanbarthol
Mae'r ddogfen yn gam cadarnhaol ymlaen - mae angen gweld yr heriau fel cyfleoedd yn hytrach na rhwystrau.
Mae cyfleoedd cyflogaeth a swyddi yn her – mae sgiliau'n broblem; angen ymgysylltu'n wahanol â'r di-waith; cofio bod Covid wedi effeithio ar bobl ifanc yn enwedig.
Angen seilwaith cryfach, i gefnogi'r heriau hyfforddi a chyflogaeth, ar gyfer pob oedran.
Dim digon o bwyslais ar y sector cymunedol, o ystyried ei botensial i ddatblygu'r economi.
Cynlluniau Integreiddio Diwylliannol sydd eu hangen i helpu i gymhathu pobl sy'n symud i'r ardal.
Cefnogi twf i fusnesau cynhenid; cael Mentrau Gymdeithasol i mewn i'r Sector Gyhoeddus a Chadwyni Cyflenwi, yn enwedig microfusnesau a busnesau newydd.
Dim mesurau ar iechyd, dim ond yr economi. Mae iechyd yn gysylltiedig ag amddifadedd a rhan helaeth o'r economi. Mae pobl iach yn dueddol o fod yn weithgar, yn economaidd, ac felly yn rhoi llai o bwysau ar y gwasanaeth iechyd.
Cyfleoedd rhanbarthol
Blaenoriaethu a chanolbwyntio ar feysydd allweddol.
Cyfyngir ar deithio llesol drwy beidio ei gynnwys gyda Twristiaeth a hamdden – angen sicrhau ei fod yn rhan annatod o fywydau pobl.
Mae canol trefi yn ei chael hi'n anodd o ran cyfleoedd i entrepreneuriaid a phobl ifanc. Gallai safleoedd gwag fod o fudd i bobl ifanc.
Mae angen i ni edrych ar brentisiaethau nawr, nid yn 2040. O ran y byd academaidd, angen ystyried y rheswm pam mae myfyrwyr yn dod i’r ardal, beth yw'r ddarpariaeth addysgol, a pha gyfleoedd sydd ar gael o ran swyddi iddynt aros; Mae gan SAU yr opsiwn i weithio gyda diwydiant ac addysg i gysylltu pobl â swyddi, mae gennym rôl gadarnhaol i sianelu'r bobl ifanc o'r cychwyn cyntaf a gwneud gwahaniaeth, rhaid ei gydlynu a dechrau gyda oedran ifanc.
Angen trawsnewid systemau - ynni, trafnidiaeth, bwyd yn hytrach nag edrych ar sectorau unigol, sut yr ydym ni fel rhanbarth yn mynd i weithio gyda'n gilydd i symud yr agenda yn ei blaen.
Cyfleoedd i ddenu pobl ifanc a phobl hŷn i'r rhanbarth, gan flaenoriaethu diwylliant Cymru.
Cyfleoedd mae’r ardal yn ei gynnig, ar gyfer cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith.
Cryfder Mentrau Cymdeithasol; sector breifat i ddysgu oddi wrth mentrau cymdeithasol; arweinwyr mentrau cymdeithasol yn flaenllaw yn newid yr hinsawdd; mae Gogledd Cymru yn cynnig enghreifftiau da.
Canolbwyntio ar gyfleoedd penodol ac amlinellu cryfderau rhanbarthol
Blaenoriaethau rhanbarthol - paratoi'r ffordd ar gyfer gweledigaeth 2040
Mae nifer o adroddiadau, strategaethau a pholisïau blaengar ar gael - mae'r gwendid yn sut yr ydym yn gweithredu. Mae bwlch mawr rhwng y llywodraeth a'r llawr gwlad yn hyn o beth. Angen ystyried pa gamau sydd angen eu cymryd, er budd ein cymunedau a phobl y rhanbarth.
Cryfhau'r berthynas rhwng datblygu cymunedol a rhanbarthol. Yn hanesyddol, mae gwahaniaethau mawr, gyda'r ddau sector yn gweithio ar wahân - i olynu'r sector cymunedol fod yn rhan o'r trafodaethau.
Mae angen rhoi mwy o bwyslais ar yr economi sylfaenol.
System sgiliau/addysg cydlynol, ar draws pob oedran.
Sicrhau bod menter gymdeithasol yn cael ei hystyried yn rhan annatod o'r gymuned fusnes; cyllid sydd ar gael i'r sector yn arbennig y sector busnesau newydd
Mae angen i ni edrych ar y sector addysg o ran cymwysterau academaidd yn erbyn cymwysterau galwedigaethol, a sicrhau bod pobl ifanc yn deall yr opsiynau sydd ar gael iddynt
Mae'n rhaid i'r dull o sut i hyrwyddo newid
Egwyddorion cydweithio rhanbarthol ar gyfer y dyfodol
Mae "cydweithio" yn y dyfodol wedi'i orddefnyddio - mae angen i ni sicrhau gweledigaeth ac eglurder hyn. Llawer o dystiolaeth o weithio trawsffiniol, angen i ni fod yn syml, clir a dealladwy.
Mae blaenoriaethu grwpiau/offer cydweithredol allweddol yn bwysig.
Mae angen cyd-gweithio ar draws y meysydd economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol - mae gweithredu ar hyn yn anodd gan nad yw cydsyniad yn hysbys i rai sectorau
Mae rhannu pŵer ac adnoddau gyda chymunedau yn allweddol. Pa mor barod yw’r cyrff corfforaethol i wneud hyn?
Y rhwystr mwyaf yw'r ffaith bod pobl yn gweithio mewn seilos - mae'n bwysig ehangu ar botensial partneriaethau presennol a'u datblygu.
Mae'n bwysig cael trafodaeth i ddod o hyd i ateb mwy cynaliadwy ar draws pob sector.