top of page
Search

Gweithdy 4: Yr Economi Carbon Isel

Gweithdy 4. 21 Hydref, 12:30 - 13:30


Cyffredinol

  • Mae'r ddogfen yn mynegi dyheadau ac uchelgeisiau'r rhanbarth, ac yn cydnabod yr ardal fel un o'r lleoedd gorau yn y DU, ar gyfer cynhyrchu ynni carbon isel – sut mae rhoi camau ar waith i gyflawni hynny?

  • Sicrhau bod iaith y ddogfen yn gadarnhaol, adeiladol, ac yn tynnu sylw at y cyfleoedd i fod yn rhan o'r ateb, ac nid yn rhan o'r broblem.


Heriau Rhanbarthol

  • Angen mwy o bwyslais ar y swyddi newydd a fydd yn cael eu creu: nodi'r sgiliau, nodi'r swyddi, ac yna ysbrydoli pobl ifanc i fynd amdanynt; annog pobl ifanc i sefydlu a datblygu busnesau a bod yn rhan o'r cydweithio.

  • Mae angen ystyried priodoldeb y seilwaith presennol i ddosbarthu trydan i bob rhan o'r rhanbarth o ble bynnag y caiff ei gynhyrchu.

  • Ymddengys bod allyriadau trafnidiaeth ar goll sy'n gyfrannwr mawr.

  • Diffyg cyfeiriad at newid ymddygiad yn y ddogfen - her enfawr i berswadio'r boblogaeth i newid eu hymddygiad a meddwl am ddefnyddio ceir trydan a phympiau gwresogi a sut mae ynni'n cael ei ddefnyddio a'i werthu.

  • Her tai: llawer o ynni wedi'i wastraffu; angen cyllid ar gyfer gwell insiwleiddio; Mae EPC yn her ymarferol ac ariannol enfawr; diffyg adnoddau ar draws y rhanbarth.

  • Defnyddio/cynhyrchu ynni: sonnir am y môr, hefyd angen pwysleisio technoleg ynni môr a llanw (a'u heffaith ar leihau perygl llifogydd).

  • Mae ‘EV charging’ yn her ag yn gyfle.

  • Mae angen cryfhau'r elfen amaethyddiaeth; her defnydd tir yn allweddol.

  • Mae her o raddio prosiectau cymunedol, mae angen dadbacio materion rheoleiddio; newid meddylfryd.

  • Mae deall sut y gall y sector breifat gyfrannu yn her.

  • Amseru.

 




Cyfleoedd Rhanbarthol

  • Sicrhau bod iaith y ddogfen yn gadarnhaol, adeiladol, ac yn amlygu'r cyfleoedd i fod yn rhan o'r ateb, ac nid yn rhan o'r broblem

  • Mae heriau yn y maes hwn yn enfawr - angen eglurder ynghylch sut rydym yn gweithio ein ffordd drwy hyn.

  • Cwmnïau gweithredol arloesi – mae cyrraedd y ‘canol coll’ (h.w the ‘missing middle’ yr M o SME) yn gyfle; sut y gallwn ymgysylltu â hwy'n effeithiol?

  • Datblygu cadwyni cyflenwi lleol ar draws Gogledd Cymru fel bod pobl a busnesau yn cael y cyfle i weithio ar brosiectau yn eu hardaloedd; angen cymell cwmnïau lleol i chwilio am gyfleoedd a theimlo'n hyderus i wneud cais am y gwaith.

  • Cymell pobl ifanc yn ein hysgolion i ddilyn cyrsiau STEM a chyfleoedd a fydd yn deillio o hynny i ddilyn gyrfaoedd a chyfleoedd newydd yn y rhanbarth.

  • Gwella ansawdd, sgiliau a set-sgiliau arbenigol o weithwyr – rhagweld anghenion sgiliau ar gyfer economi carbon isel.

  • Mae angen i addysg fod ar waith ar bob lefel - rhagweld anghenion sgiliau ar gyfer economi carbon isel.

  • A oes ffordd i ddatblygwyr rannu gwybodaeth â Chyfoeth Naturiol Cymru? A fyddai datblygwyr yn ffynnu o rannu gwybodaeth o'r fath?

  • Gwella’r broses gydsynio – gwella’r broses benderfynu a’r llinell amser ar gyfer datblygiadau carbon isel/datblygiadau adnewyddadwy.

  • Bioeconomi – cyfle i ddefnyddio deunyddiau lleol newydd/naturiol (yn enwedig ym maes adeiladu); efallai y bydd cyfleoedd yma gydag amaethyddiaeth.


Blaenoriaethau Rhanbarthol - paratoi'r ffordd ar gyfer gweledigaeth 2040

  • Mae angen i REF fod yn gliriach ynghylch a beth yw'r cynnig, i annog diddordeb, sicrhau fod partneriaid yn rhan o’r REF, ac yn gweithredu (gan gydnabod ei bod yn anodd gwneud y REF yn berthnasol i bawb)

  • Nid yw'r rhan fwyaf o'r sector masnachol yn ymwybodol o REF, a'r hyn y mae'n ei olygu iddynt; Mae angen i REF ddiffinio buddsoddiadau ariannol/cefnogaeth.

  • Heb seilwaith digonol, ni ellir datgarboneiddio prosiectau ar draws ardaloedd gwledig; mwy o gefnogaeth i ynni lleol sy'n eiddo i'r gymuned.

  • Annog cwmnïau lleol i gydweithio a mynd am y cyfleoedd a ddaw yn sgil y datblygiadau arfaethedig.

  • Angen adeiladu'r seilwaith ffsiegol a rhithiol, i gadw sgiliau a diwydiannau yn y rhanbarth; heb y seilwaith cywir, ni fydd busnesau presennol yn gallu cynllunio ar gyfer y dyfodol pan fydd staff hŷn yn gadael neu'n ymddeol – cynllunio olyniaeth. Angen cynllun olyniaeth Rhanbarthol, a sicrhau nad yw talent medrus ifanc yn cael ei cholli.

  • Pwysigrwydd edrych ar yr hyn sy'n gyraeddadwy, a sicrhau ein bod yn cael buddsoddiad yn y rhanbarth, i sicrhau bod y gadwyn gyflenwi yn dilyn.

  • Dull cydnerthedd economaidd rhanbarthol cydgysylltiedig; angen bod ar lefel leol/ranbarthol a chenedlaethol (cyfeiriad at adroddiad y Sefydliad Materion Cymreig a oedd yn tynnu sylw at fylchau).

  • Cydnabod cyflymder y newid sydd ei angen – angen cyflymu datblygiad a chael pethau'n weithredol.

  • Mae rôl Llywodraeth Cymru yn hanfodol wrth hyrwyddo pethau ac alinio â rhanbarthau eraill yn y DU.

  • Datgarboneiddio trafnidiaeth – wedi'i hepgor ac mae angen ei gynnwys fel blaenoriaeth.

  • Gweithio i gadw busnesau ac i sefydlu busnesau newydd. Cadw'n lleol, cadw swyddi a lleihau'r gofyniad teithio.


Egwyddorion cydweithio rhanbarthol, ar gyfer y dyfodol

  • Mae’r REF yn eiddo i bawb ond, mae angen i rywun fod yn berchen ar y cynllun cyflawni. Mae gan Lywodraeth Cymru rôl hollbwysig i'w chwarae yma, law yn llaw â BUEGC a'r rhanbarth; gwerthfawrogi bod rhai elfennau tu hwnt i reolaeth Llywodraeth Cymru.

  • Pwysig sicrhau fod yr uchelgais yn cael ei chydnabod fel un i’w rhannu, i sicrhau perchnogaeth ar draws y rhanbarth (gan gynnwys y Gogledd Orllewin); rôl bosibl i'r BUEGC, i sicrhau dealltwriaeth a chydweithrediad llawn, gyda'r MDA a'r Gogledd Orllewin.

  • Gwella cysylltiadau band eang a ffonau symudol - gallai hyn gyfyngu ar weithgarwch ar-lein.

  • Nodi'r cyfleoedd i fusnesau, pobl a'r economi; cysylltu busnesau i gael economi gylchol llwyfan 'ap dêtio'?

  • Mae angen dileu'r gweithdrefnau a biwrocratiaeth.

  • Angen gweithio gyda ffocws, cyflymder a hygyrchedd, mae angen i hyn fod ar flaen y gad o ran gweithgarwch, gan wneud penderfyniadau'n gynnar a gweithredu'n gyflym.

6 views
bottom of page