Gweithdy 5. 26 Hydref, 12:30 - 13:30
Heriau i'r rhanbarth
Mae'n ymddangos bod twristiaeth wedi esgeuluso ac anwybyddu cymunedau wrth ei ddatblygu. Dylid buddsoddi arian twristiaeth yn lleol i brynu adeiladau fforddiadwy neu ddatblygu atyniadau a gwasanaethau twristiaeth a ddatblygwyd neu eu rheoli’r yn lleol.
Mae economi'r nos ar goll, datblygu hynny fel arlwy - ardaloedd fel Conwy ond dros ranbarth Gogledd Cymru.
Mae angen mynd i'r afael â Thrafnidiaeth Gynaliadwy, a llinell amser sy'n cyd-fynd â hyn; nid oes llawer o fanylion am drafnidiaeth yn y ddogfen.
Mae ystyried seilwaith gwefru Cerbydau Trydan hefyd yn bwysig.
Mae penderfyniadau ynghylch llwybr Coch/Glas a phenderfyniad cyflym ar hyn yn bwysig - gallai newid gweithrediad y REF yn ddramatig.
Mae llinellau amser yn ystyriaeth bwysig a lle cânt eu rhoi yn y ddogfen.
Mae cyfle i ymwelwyr 12 mis/drwy gydol y flwyddyn. Mae angen gwahaniaethu rhwng atyniadau dan do ac awyr agored a'r anawsterau o ran denu twristiaeth i atyniadau awyr agored yn y misoedd hwyrach
Angen ystyried y cynnig twristiaeth o ran y bobl sy'n byw yn y rhanbarth sy'n creu ei farchnad ei hun

Cyfleoedd i'r rhanbarth
Angen buddsoddi arian twristiaeth yn ôl i'r cymunedau er mwyn sicrhau cynaliadwyedd
Dim llawer o wyliau cerddoriaeth – gallai hyn fod yn gyfle ar draws rhanbarth Gogledd Cymru.
Mae angen ail-frandio er mwyn denu talentau bwyd a diod yn yr ardal.
Cyfle i osod safon debyg rhwng profiadau ar draws y sector gyda rhyw fath o farc barcud ac i hyn gael ei blismona'n gadarn.
Arlwy drwy gydol y flwyddyn ar gyfer gweithgareddau awyr agored a dan do, ac mae gan y ddau atyniad cyfartal.
Angen buddsoddi mewn cyfleoedd i gynyddu traffig o safbwynt lleol a thwristiaeth. Cyfle i amwynderau fod yn fwy hyblyg ar adegau penodol o'r flwyddyn.
Gallai cyfleoedd ar gyfer lleoliadau cynhyrchu ffilmiau fod yn arweinydd wrth symud ymlaen
Ystyried y galw noson allan ag atal ei ddirywiad, gan sicrhau bod pawb yn cyrraedd atynt
Blaenoriaethau i'r rhanbarth baratoi'r ffordd ar gyfer gweledigaeth 2040
Sicrhau rhwydwaith trafnidiaeth sy'n diwallu anghenion ymwelwyr a phobl leol; buddsoddi mewn systemau sy'n bodoli eisoes fel y rheilffyrdd gwledig; mae angen iddo fod ar gael, hygyrch, ddibynadwy ac integredig.
Canolbwyntio ar sicrhau strategaeth hirdymor a seilwaith cynaliadwy sy'n cynnwys ymgysylltu cymunedol, cyn dechrau ar farchnata a datblygu prosiectau drud, sgleiniog
Cyflogaeth: cydnabyddiaeth, cyfleoedd i broffesiwn; cydnabod bod y sector twristiaeth yn broffesiwn ac nid yn swydd o'r dewis olaf; mae angen edrych ar hyfforddiant a chymwysterau proffesiynol sy'n gysylltiedig â'r economi hon.
Angen amserlenni – i ddarparu map trywydd.
Mae gweithio trawsffiniol yn flaenoriaeth - cyfleoedd a heriau o ran cydweithio trawsffiniol e.e. gweithio gyda Chynghrair Mersi Dyfrdwy
Cydnabod y rôl y gall cymunedau ei chwarae; mae angen cymorth i fentrau cymunedol fod yn fwy eglur h.y. beth a sut.
Cydnabod y cynnig economi gyda’r nos; cystadleuaeth o ranbarthau eraill yn uchel, denu gwestai wedi'u brandio ar gyfer digwyddiadau gyda’r nos;
Cynnig drwy gydol y flwyddyn nid yn unig yn y gaeaf a'r haf yn enwedig atyniadau dan do.
Cryfhau'r diwydiant creadigol, er mwyn sicrhau bod y broses gynhyrchu o'r dechrau i’r diwedd yn parhau yn y rhanbarth
Egwyddorion cydweithio ar gyfer y rhanbarth yn y dyfodol
Rhannu arfer da, cefnogaeth ac ysbrydoliaeth ymhlith y cymunedau. Mae'r gallu, yr awydd, y ddealltwriaeth a'r brwdfrydedd eisoes yn bodoli ond mae angen adnoddau a chydweithrediad i'w roi ar waith i ddatblygu a bod yn berchen ar dwristiaeth leol
Angen annog a chefnogi'r nifer fawr o fusnesau ac entrepreneuriaid llwyddiannus sydd wedi'u gwreiddio yn ein cymunedau i fuddsoddi yn ein cymunedau drwy gyflogi pobl leol, rhannu adnoddau lleol a gwario'n lleol.
Nid yw mesur llwyddiant a gwerth y diwydiant yn ymwneud â chanolbwyntio ar dwf na GDP.
Rhannu a lledaenu arferion da presennol a magu hyder wrth fod yn berchen ar dwristiaeth yn eu hardal a ymfalchïo yn eu hadnoddau naturiol, eu diwylliant a'u hiaith
Cynnal astudiaeth buddsoddi mewn twristiaeth i ddarganfod beth sy'n gweithio, beth yw gwerth am arian a'r hyn sy'n gynaliadwy; dysgu o wledydd/lleoedd eraill, nodi modelau sy'n gweithio.
Mae angen i gydweithio fod ar lefel sylfaenol lle mae'n fwy effeithiol ac yn ymgysylltu - ar hyn o bryd mae ar y lefel strategol. Awdurdodau lleol i weithio ar y lefel gydweithredol. Angen neilltuo rhywun ar gyfer cydweithio.
Defnyddio llwyfan ddigidol yn hytrach na chyfarfodydd wyneb i wyneb ar gyfer rhwydweithio traws-sector/rhanbarthol
Mae partneriaethau e.e. gweithio gyda Chynghrair Merswy Dyfrdwy (MDA) yn bwysig; osgoi dyblygu a chydnabod a chynnwys materion trawsffiniol.
Mae angen i’r REF gynnwys camau gweithredu a materion o bwys - mwy na dogfen strategol yn unig.
Angen llinellau amser ar gyfer y sectorau cyhoeddus a phreifat i hyrwyddo dull cydweithredol.