top of page
Search

Gweithdy 1: Yr Economi lles Cymdeithasol

Gweithdy 1. 19 Hydref, 09:30 - 10:30


Dyma'ch cyfle i rannu'ch gweledigaeth ar gyfer dyfodol rhanbarth Gogledd Cymru.

Isod mae crynodeb o'r trafodaethau yn nigwyddiad ymgynghori diweddar y Fframwaith Economaidd Rhanbarthol ar gyfer Gogledd Cymru a gynhaliwyd ar fore'r 19eg o Hydref.

Porwch y pwyntiau allweddol ac ychwanegwch eich rhai eich hun i'r drafodaeth trwy roi sylwadau isod.

 


Heriau rhanbarthol

  • Mae'r ddogfen yn gam cadarnhaol ymlaen - mae angen gweld yr heriau fel cyfleoedd yn hytrach na rhwystrau.

  • Mae cyfleoedd cyflogaeth a swyddi yn her – mae sgiliau'n broblem; angen ymgysylltu'n wahanol â'r di-waith; cofio bod Covid wedi effeithio ar bobl ifanc yn enwedig.

  • Angen seilwaith cryfach, i gefnogi'r heriau hyfforddi a chyflogaeth, ar gyfer pob oedran.

  • Dim digon o bwyslais ar y sector cymunedol, o ystyried ei botensial i ddatblygu'r economi.

  • Cynlluniau Integreiddio Diwylliannol sydd eu hangen i helpu i gymhathu pobl sy'n symud i'r ardal.

  • Cefnogi twf i fusnesau cynhenid; cael Mentrau Gymdeithasol i mewn i'r Sector Gyhoeddus a Chadwyni Cyflenwi, yn enwedig microfusnesau a busnesau newydd.

  • Dim mesurau ar iechyd, dim ond yr economi. Mae iechyd yn gysylltiedig ag amddifadedd a rhan helaeth o'r economi. Mae pobl iach yn dueddol o fod yn weithgar, yn economaidd, ac felly yn rhoi llai o bwysau ar y gwasanaeth iechyd.


Cyfleoedd rhanbarthol

  • Blaenoriaethu a chanolbwyntio ar feysydd allweddol.

  • Cyfyngir ar deithio llesol drwy beidio ei gynnwys gyda Twristiaeth a hamdden – angen sicrhau ei fod yn rhan annatod o fywydau pobl.

  • Mae canol trefi yn ei chael hi'n anodd o ran cyfleoedd i entrepreneuriaid a phobl ifanc. Gallai safleoedd gwag fod o fudd i bobl ifanc.

  • Mae angen i ni edrych ar brentisiaethau nawr, nid yn 2040. O ran y byd academaidd, angen ystyried y rheswm pam mae myfyrwyr yn dod i’r ardal, beth yw'r ddarpariaeth addysgol, a pha gyfleoedd sydd ar gael o ran swyddi iddynt aros; Mae gan SAU yr opsiwn i weithio gyda diwydiant ac addysg i gysylltu pobl â swyddi, mae gennym rôl gadarnhaol i sianelu'r bobl ifanc o'r cychwyn cyntaf a gwneud gwahaniaeth, rhaid ei gydlynu a dechrau gyda oedran ifanc.

  • Angen trawsnewid systemau - ynni, trafnidiaeth, bwyd yn hytrach nag edrych ar sectorau unigol, sut yr ydym ni fel rhanbarth yn mynd i weithio gyda'n gilydd i symud yr agenda yn ei blaen.

  • Cyfleoedd i ddenu pobl ifanc a phobl hŷn i'r rhanbarth, gan flaenoriaethu diwylliant Cymru.

  • Cyfleoedd mae’r ardal yn ei gynnig, ar gyfer cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith.

  • Cryfder Mentrau Cymdeithasol; sector breifat i ddysgu oddi wrth mentrau cymdeithasol; arweinwyr mentrau cymdeithasol yn flaenllaw yn newid yr hinsawdd; mae Gogledd Cymru yn cynnig enghreifftiau da.

  • Canolbwyntio ar gyfleoedd penodol ac amlinellu cryfderau rhanbarthol


Blaenoriaethau rhanbarthol - paratoi'r ffordd ar gyfer gweledigaeth 2040

  • Mae nifer o adroddiadau, strategaethau a pholisïau blaengar ar gael - mae'r gwendid yn sut yr ydym yn gweithredu. Mae bwlch mawr rhwng y llywodraeth a'r llawr gwlad yn hyn o beth. Angen ystyried pa gamau sydd angen eu cymryd, er budd ein cymunedau a phobl y rhanbarth.

  • Cryfhau'r berthynas rhwng datblygu cymunedol a rhanbarthol. Yn hanesyddol, mae gwahaniaethau mawr, gyda'r ddau sector yn gweithio ar wahân - i olynu'r sector cymunedol fod yn rhan o'r trafodaethau.

  • Mae angen rhoi mwy o bwyslais ar yr economi sylfaenol.

  • System sgiliau/addysg cydlynol, ar draws pob oedran.

  • Sicrhau bod menter gymdeithasol yn cael ei hystyried yn rhan annatod o'r gymuned fusnes; cyllid sydd ar gael i'r sector yn arbennig y sector busnesau newydd

  • Mae angen i ni edrych ar y sector addysg o ran cymwysterau academaidd yn erbyn cymwysterau galwedigaethol, a sicrhau bod pobl ifanc yn deall yr opsiynau sydd ar gael iddynt

  • Mae'n rhaid i'r dull o sut i hyrwyddo newid


Egwyddorion cydweithio rhanbarthol ar gyfer y dyfodol

  • Mae "cydweithio" yn y dyfodol wedi'i orddefnyddio - mae angen i ni sicrhau gweledigaeth ac eglurder hyn. Llawer o dystiolaeth o weithio trawsffiniol, angen i ni fod yn syml, clir a dealladwy.

  • Mae blaenoriaethu grwpiau/offer cydweithredol allweddol yn bwysig.

  • Mae angen cyd-gweithio ar draws y meysydd economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol - mae gweithredu ar hyn yn anodd gan nad yw cydsyniad yn hysbys i rai sectorau

  • Mae rhannu pŵer ac adnoddau gyda chymunedau yn allweddol. Pa mor barod yw’r cyrff corfforaethol i wneud hyn?

  • Y rhwystr mwyaf yw'r ffaith bod pobl yn gweithio mewn seilos - mae'n bwysig ehangu ar botensial partneriaethau presennol a'u datblygu.

  • Mae'n bwysig cael trafodaeth i ddod o hyd i ateb mwy cynaliadwy ar draws pob sector.


2 views

1 comentário


kate.parsons
12 de out. de 2021

test4

Curtir
bottom of page